Meithrinfa Ddydd Toybox
Ym Meithrinfa Toybox rydym yn cynnig gofal plant o ansawdd, gan sicrhau bod y rhieni a’r plant yn dod i amgylchedd sy’n gynnes a chyfeillgar, gyda gofal ac addysg o’r safon uchaf.
Gyda lleoliad sy’n darparu gofal ac addysg i blant rhwng 3 mis a phump oed, mae’n bwysig deall ein bod yn gweld pob grŵp oedran fel cam ymlaen tuag at eu paratoi ar gyfer eu dyfodol.
Ble gallwn ni fynd â chi?
Amseroedd agor
Dydd Llun
8:00am – 5:45pm
Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm
Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm
Dydd Iau
8:00am – 5:45pm
Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU
Amseroedd agor
Dydd Llun
8:00am – 5:45pm
Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm
Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm
Dydd Iau
8:00am – 5:45pm
Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU
Pam dewis meithrinfa Toybox?
Lansiwyd Meithrinfa Toybox dros 30 mlynedd yn ôl ac mae’n cynnig gofal plant o safon uchel lle gall plant ffynnu a gwneud atgofion cadarnhaol. Mae’r feithrinfa yn dilyn y Dull Chwilfrydig™ gan ddefnyddio dull meithrin a arweinir gan blant i hyrwyddo rhyfeddod, syndod a chwilfrydedd.
Mae gennym ardal chwarae fawr yn yr awyr agored sy’n galluogi plant i chwarae yn yr awyr iach yn yr awyr agored yn ddyddiol. Mae hyn yn rhedeg ochr yn ochr â’r sesiynau Cadw’n Heini rydym yn eu cynnig, gan ddefnyddio cyfleusterau athletau’r Coleg a’n hardal goetir sy’n galluogi’r plant i gael mynediad i’r amgylchedd naturiol a hyrwyddo llesiant.
Cafodd Meithrinfa Toybox arolygiad yn ddiweddar a’i graddio’n ‘Rhagorol’. Darllenwch ein hadroddiad arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru yma a’n hadroddiad arolygu Estyn yma.

Mae Meithrinfa Toybox yn gweithio ochr yn ochr â Chroes Y Bont yn rhoi’r Iaith Gymraeg ar waith yn y Feithrinfa. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, yn dysgu caneuon Cymraeg ac yn cefnogi’r staff i ddefnyddio ymadroddion Cymraeg achlysurol trwy gydol y dydd.
Mae meithrinfa Toybox yn darparu ar gyfer yr holl ofynion dietegol. Os yw eich plentyn yn dilyn deiet arbennig oherwydd alergeddau, anoddefiadau, anghenion meddygol, credoau diwylliannol neu grefyddol gallwn ddarparu bwydlen ar wahân i gefnogi ei anghenion.
Mae pob plentyn sy’n mynd i Feithrinfa Toybox yn cael ei drin yn gyfartal a theg ac yn cael yr un cyfleoedd i gyrraedd ei lawn botensial. Os oes angen cymorth ychwanegol ar blentyn, bydd y Feithrinfa yn gweithio’n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol megis timau datblygu cyn-ysgol, Ymwelwyr Iechyd a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol.