Ein prisiau

Telerau Talu

Mae tâl yn ddyledus ar ddechrau’r mis. Dylai taliad y mis cyntaf gael ei wneud cyn i’ch plentyn ddechrau yn y feithrinfa.

Rydym yn derbyn taliadau trwy:

  •               Famly – defnyddio opsiwn talu ar yr ap
  •               Cerdyn Debyd/Credyd
  •               Talebau Gofal Plant
  •               Cynllun Gofal Plant Di-dreth y Llywodraeth
  •               Bancio Ar-lein / Trosglwyddiad Bacs ** Nodwch nad ydym yn derbyn arian parod

Nid oes unrhyw ostyngiad mewn ffioedd am absenoldeb, gwyliau personol na gwyliau banc, ac eithrio’r cyfnod cau o un wythnos adeg y Nadolig. Mae anfonebau a datganiadau yn cael eu hanfon allan yn fisol ac mae’n bosib gwneud unrhyw ymholiadau ynglŷn â thaliadau trwy gysylltu â’r Adran Gyllid ar 01978267530 neu ar e-bost (financesales@cambria.ac.uk).

Nodwch: Os byddwch yn trefnu unrhyw sesiynau gofal ychwanegol ar gyfer eich plentyn ac nad oes eu hangen mwyach wedi hynny, gofynnwn yn garedig am rybudd o 48 awr (o leiaf) cyn canslo. Pan na fydd rhybudd o 48 awr yn cael ei roi bydd disgwyl i chi dalu’r ffi lawn ar gyfer y sesiwn. 

Ffioedd Lleoliad

Wythnosol

Misol

5 diwrnod yr wythnos

£370.00

£1572.50

4 diwrnod yr wythnos

£296.00

£1258.00

3 diwrnod yr wythnos

£222.00

£943.50

2 ddiwrnod yr wythnos

£148.00

£629.00

1 diwrnod yr wythnos

£74.00

£314.50

Hanner Sesiwn (8am-1pm & 12pm-5:45pm)

£47.00

£199.75

Oriau agor yw 8:00am i 5.45pm. Tâl am gasglu’n hwyr o’r feithrinfa = £11.50

Mae ffioedd yn cael eu cyfrifo yn fisol fel a ganlyn:

Ffioedd wythnosol x 51 wythnos / 12 mis = ffi fisol

Mae sesiynau ychwanegol yn cael eu codi ar y raddfa sesiynol ac mae’n rhaid talu am y rhain ar y diwrnod cyn gadael eich plentyn yn y feithrinfa.

TALIAD HWYR

Bydd yr holl ffioedd yn ddyledus ar ddechrau’r mis. Bydd taliadau hwyr yn golygu tâl am daliad hwyr. 

I gael gwybodaeth am hawlogaeth gynnar, cliciwch ar y ddolen isod

https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Schools/Early-Entitlement-Scheme-Flintshire.asp

I gael gwybodaeth am y cynnig gofal plant 30 awr cliciwch ar y ddolen ganlynol

https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Schools/childcare-offer.aspx

I gael gwybodaeth am Dechrau’n Deg cliciwch ar y ddolen ganlynol

https://earlyyears.wales/flintshire-flying-start/

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Gwneud ymholiad

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

oriel ein meithrinfa

Noson Agored

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 10am-12pm

Dewch draw i gwrdd â’n staff cyfeillgar ac i edrych o gwmpas ein hystafelloedd ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.