Mae ystafell y Lindys yn gofalu am fabanod 0-12 mis oed. Mae’r ystafell yn ofod mawr agored sy’n gynnes a chartrefol, ac yn cynnig ethos cartref oddi cartref mewn awyrgylch hamddenol, tawel.
Mae ystafell y Lindys yn rhannu cegin gydag ystafell y Buchod Coch Cwta ar gyfer babanod 12 – 18 mis oed gerllaw, ar gyfer paratoi poteli, sterileiddio, paratoi brecwast a byrbrydau yn ogystal â gweini cinio. Mae gan yr ystafell fynediad i’w man chwarae awyr agored ei hun sy’n galluogi’r babanod i fynd allan drwy gydol y dydd.
Ceir cymhareb o 1 oedolyn i 3 babi. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, â llawer o’n staff wedi’u cymhwyso i Lefel 5. Maen nhw’n gallu rhoi cymorth a chyngor, gan gyfathrebu gyda rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Rydym hefyd yn feithrinfa sy’n ffafriol i fwydo o’r fron. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa.
Mae diwrnod y feithrinfa yn caniatáu dilyn trefn unigol y babi, a babanod yn gallu cysgu pan fo angen er mwyn sicrhau bod y plant yn cael ansawdd y gorffwys sydd ei angen arnyn nhw i dyfu a datblygu. Mae’r ddwy ystafell fabanod yn gweithio’n agos gyda’i gilydd gan ddarparu awyrgylch saff a diogel i fabanod a’u rhieni/gofalwyr.
Dydd Llun
8:00am – 5:45pm
Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm
Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm
Dydd Iau
8:00am – 5:45pm
Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU