Mae ein tîm ymroddedig yn arbenigwyr mewn gofalu am blant. Bob dydd maen nhw’n annog ein plant i ymchwilio ac archwilio eu hamgylchedd mewn modd hwyliog, cyfeillgar a gofalgar. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, a llawer o’n staff wedi cymhwyso i Lefel 5.
Mae ein holl ystafelloedd yn cael eu harwain gan Uwch Nyrs y Feithrinfa sydd â chyfoeth o brofiad mewn gofalu am fabanod a phlant bach. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw.
Dwi wedi bod yn rhan o’r tîm Toybox am dros 30 mlynedd. Mae gen i wybodaeth helaeth am reoli meithrinfa blant yn llwyddiannus.
Mae gen i dros 25 mlynedd o brofiad a gwybodaeth yn yr adran Dysgu Sylfaen a fi yw’r Ymarferydd Ysgol Goedwig hefyd yn annog dysgu yn yr awyr agored.
Dwi’n angerddol am ddatblygu iaith a lleferydd yn y blynyddoedd cynnar a datblygu meddyliau chwilfrydig.
Dwi’n mwynhau cefnogi’r plant i ffynnu a datblygu o fod yn blant bach i fod yn blant annibynnol sydd ar fin mynd i’r ysgol.
Mae gen i dros 13 blynedd o brofiad gyda phlant 0-12 oed. Dwi’n frwdfrydig iawn a bob amser yn darparu amgylchedd diogel a hwyliog i blant.
Dwi’n gweithio yn yr ystafell fabanod ac wedi bod yn rhan o dîm Toybox ers 17 mlynedd. Mae’n rhoi cymaint o foddhad gweld y babanod yn tyfu ac yn datblygu ar eu taith drwy’r feithrinfa gan wybod ein bod ni wedi eu helpu i ddatblygu.
Dydd Llun
8:00am – 5:45pm
Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm
Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm
Dydd Iau
8:00am – 5:45pm
Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU
Dydd Llun
8:00am – 5:45pm
Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm
Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm
Dydd Iau
8:00am – 5:45pm
Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU