Cennin Pedr-Daffodils
3–5 Oed

Gwybodaeth am yr ystafell

Yn ein Hystafell Cennin Pedr-Daffodils mae amgylchedd gofalgar sydd hefyd yn ysgogi’r meddwl lle bydd plant yn cael eu hannog i fod yn ddysgwyr hyderus ac annibynnol ac i wneud penderfyniadau eu hunain.

Gan ddilyn Cwricwlwm i Gymru mae plant yn dysgu trwy chwarae, archwilio a phrofiadau ymarferol. Rydym yn dilyn diddordebau plant gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu creadigol, adeiladol, chwarae rôl, dychmygol a darganfyddol.

Mae ein hardal fawr tu allan yn cynnig cyfoeth o brofiadau gan gynnwys chwilio am bryfed, chwarae gyda dŵr a mwd, annog plant i archwilio, chwilota a datblygu eu sgiliau corfforol, gwybyddol a chymdeithasol.

Mae plant hefyd yn gallu mwynhau sesiwn Cadw’n Heini yn wythnosol gan ddefnyddio’r Neuadd Chwaraeon a’r Trac Athletau – gan helpu gyda datblygiad corfforol, hyder ac agwedd bositif at iechyd a llesiant.

Gofal Plant wedi’i Ariannu

Rydym yn cynnig llefydd Hawl Gynnar yn ystod y tymor am 30 Awr o Ofal Plant am Ddim i deuluoedd cymwys. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Yn ystafell Y Cacwn ceir cymhareb o 1 oedolyn i bob 4 plentyn. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, a llawer o’n staff wedi cymhwyso i Lefel 5. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw.

Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa. Anogir y plant yn ystafell y Cacwn i chwarae gyda’i gilydd, datblygu cyfeillgarwch a dysgu sut i fynegi eu hunain. Rydym yn darparu cyfleoedd i lenwi eu dyddiau gyda phrofiadau dysgu gan ddefnyddio ystod eang o weithgareddau sy’n cynnwys tywod, chwarae hydrin, llyfrau, chwarae gyda blociau, chwarae arbrofol, chwarae rhan a symud.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa

Noson Agored

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 10am-12pm

Dewch draw i gwrdd â’n staff cyfeillgar ac i edrych o gwmpas ein hystafelloedd ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.