Lili-Lily
1–2 Oed

Gwybodaeth am yr ystafell

Mae ein hystafell Lili-Lily yn cynnig amgylchedd cartrefol a gofalgar lle mae plant bach yn teimlo’n ddiogel, sicr a hyderus wrth iddyn nhw ddechrau datblygu eu hannibyniaeth.

Mae ein plant yn mwynhau profiadau sy’n briodol i’w hoedran yn seiliedig ar eu diddordebau, anghenion a datblygiad personol gan ddysgu trwy chwarae, archwilio a darganfod. Mae ein rŵtin hyblyg yn ymateb i bob plentyn ar wahân gan gynnwys cyfleoedd i ymlacio a chysgu pan fo angen.

Gyda mynediad uniongyrchol i’n hardal chwarae tu allan mae plant yn gallu mwynhau’r balans o brofiadau dan do a thu allan trwy gydol y dydd.

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Ceir cymhareb o 1 oedolyn i 3 babi. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, â llawer o’n staff wedi’u cymhwyso i Lefel 5. Maen nhw’n gallu rhoi cymorth a chyngor, gan gyfathrebu gyda rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Rydym hefyd yn feithrinfa sy’n ffafriol i fwydo o’r fron. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa.

Mae diwrnod y feithrinfa yn caniatáu dilyn trefn unigol y babi, a babanod yn gallu cysgu pan fo angen er mwyn sicrhau bod y plant yn cael ansawdd y gorffwys sydd ei angen arnyn nhw i dyfu a datblygu. Mae’r ddwy ystafell fabanod yn gweithio’n agos gyda’i gilydd gan ddarparu awyrgylch saff a diogel i fabanod a’u rhieni/gofalwyr.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa

Noson Agored

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 10am-12pm

Dewch draw i gwrdd â’n staff cyfeillgar ac i edrych o gwmpas ein hystafelloedd ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.