Twlip-Tulip
18 mis - 2.5 oed

Gwybodaeth am yr ystafell

Yn ein Hystafell Twlip-Tulip rydym yn cynnig darpariaeth Dechrau’n Deg penodol ar gyfer plant 2-3 oed.

Mae’r ddarpariaeth yn ystod y tymor yn unig gyda phlant yn dysgu trwy chwarae, archwilio a darganfod ar yr un pryd â dilyn eu diddordebau unigol a’u hanghenion datblygol.

Mae gan blant fynediad uniongyrchol i’n hardal chwarae y tu allan gan gynnig y cyfle i gadw’n heini, archwilio a datblygu eu sgiliau corfforol, hyder a llesiant.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar ein darpariaeth Dechrau’n Deg.

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Ceir cymhareb o 1 oedolyn i bob 4 plentyn. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, a llawer o’n staff wedi cymhwyso i Lefel 5. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa.

Anogir y plant yn ystafell y Pili Palas i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd, a dysgu sut i fynegi eu hunain. Rydym yn darparu ystod eang o deganau ac mae ein gweithgareddau’n amrywio. Maent yn cynnwys gludo, paentio, chwarae gyda thywod a phobi. Rydym yn annog y plant i archwilio ac arbrofi trwy chwarae creadigol a gweithgareddau awyr agored, i dyfu a datblygu.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa

Noson Agored

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 10am-12pm

Dewch draw i gwrdd â’n staff cyfeillgar ac i edrych o gwmpas ein hystafelloedd ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.