Y Pili Palas
18 mis - 2.5 oed

Play Video

Gwybodaeth am yr ystafell

Mae ystafell Y Pili Palas yn gofalu am blant 18 mis – 2.5 oed. Mae’r ystafell yn fan mawr, agored a golau sy’n gynnes a chartrefol, gan gynnig ethos cartref oddi cartref. Mae gan y plant fynediad uniongyrchol i’r ardal chwarae awyr agored drwy gydol y dydd i chwarae gyda theganau awyr agored, dringo, rowlio a rhedeg o gwmpas, ac archwilio.

Mae ystafell y Pili Palas yn dilyn trefn ddyddiol sy’n caniatáu i’r plant brofi ystod eang o brofiadau chwarae a dysgu, yn ogystal â’r Dull Chwilfrydig™.

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Ceir cymhareb o 1 oedolyn i bob 4 plentyn. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, a llawer o’n staff wedi cymhwyso i Lefel 5. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa.

Anogir y plant yn ystafell y Pili Palas i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd, a dysgu sut i fynegi eu hunain. Rydym yn darparu ystod eang o deganau ac mae ein gweithgareddau’n amrywio. Maent yn cynnwys gludo, paentio, chwarae gyda thywod a phobi. Rydym yn annog y plant i archwilio ac arbrofi trwy chwarae creadigol a gweithgareddau awyr agored, i dyfu a datblygu.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa