Y Buchod Coch Cwta
12-18 mis oed

Play Video

About the room

Mae ystafell y Buchod Coch Cwta yn gofalu am fabanod 12-18 mis oed. Mae’r man mawr agored yn gynnes, cartrefol a chyfeillgar, gydag awyrgylch hamddenol a digynnwrf, a mynediad uniongyrchol i’r ardal chwarae awyr agored, sy’n galluogi eich babi i ffynnu yn ei ddatblygiad. Ynghyd â’r drefn ddyddiol sydd gan yr ystafell ar waith, rydym yn dilyn arweiniad eich babi ac maen nhw’n gallu cysgu pan fo angen er mwyn sicrhau bod y plant yn cael ansawdd y gorffwys sydd ei angen arnyn nhw i dyfu a datblygu.. Mae hyn yn galluogi’ch babi i brofi ystod eang o brofiadau chwarae a dysgu yn ogystal â’r Dull Chwilfrydig®

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Ceir cymhareb o 1 oedolyn i 3 babi. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, â llawer o’n staff wedi’u cymhwyso i Lefel 5. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Rydym hefyd yn feithrinfa sy’n ffafriol i fwydo o’r fron.

Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa sydd â chyfoeth o brofiad gyda babanod. Ynghyd â’r Ystafell y Lindys gerllaw, mae’r ddwy ystafell fabanod yn gweithio’n agos gyda’i gilydd fel uned fabanod sy’n darparu awyrgylch saff, diogel a chyfarwydd i fabanod archwilio, tyfu a datblygu.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa