Sioncod y Gwair
3 - 5 mlwydd oed

Play Video

Gwybodaeth am yr ystafell

Mae ystafell Sioncod y Gwair yn darparu ar gyfer plant 3 – 5 oed. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r plant archwilio’r amgylchoedd y tu allan i’r feithrinfa. Mae plant yn mwynhau sesiwn Cadw’n Heini unwaith yr wythnos gan ddefnyddio naill ai’r Neuadd Chwaraeon neu’r Trac Athletau sy’n eu galluogi i adeiladu ar eu datblygiad corfforol wrth wella eu datblygiad personol a chymdeithasol, gan hyrwyddo iechyd a llesiant da.

Mae’r plant yn elwa o’r ardal chwarae awyr agored lle maen nhw’n dysgu drwy weithgareddau amlsynhwyraidd a chreadigol, gan gynnwys hela pryfed, chwarae dŵr a mwd. Mae bod yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i’ch plentyn ddysgu a darganfod drwy weithgareddau wedi’u cynllunio a digymell wrth ddatblygu eu sgiliau corfforol, gwybyddol a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd.

Beth arall ddylech chi ei wybod?

Yn ystafell y Sioncod y Gwair ceir cymhareb o 1 oedolyn i bob 8 plentyn. Mae pob ymarferydd gofal plant yn gymwys i Lefel 3 o leiaf, a llawer o’n staff wedi cymhwyso i Lefel 5. Rydym yn meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni, gan roi cymorth a chyngor ar dwf a datblygiad eich plentyn, gan gyfathrebu â rhieni drwy gydol y dydd trwy’r Ap Seesaw. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Uwch Nyrs Feithrinfa. Mae’r plant yn ystafell y Sioncod y Gwair yn dilyn Cwricwlwm newydd Cymru sy’n cael ei gynnal dan do ac yn yr awyr agored ac yn galluogi plant i ddysgu drwy chwarae a bod wrth wraidd eu dysgu.

Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried a byddant yn cael eu hannog i wneud eu dewisiadau eu hunain ynglŷn â’u dysgu. Mae ymarferwyr yn arsylwi’r plant, gan weithio gydag unigolion, grwpiau bach a’r grŵp cyfan ar adegau. Mae hyn yn arwain at weithgareddau ymarferol a hwyliog sy’n nodedig am ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Mae dysgu trwy chwarae yn caniatáu i blant ddefnyddio menter, mentro a gwneud camgymeriadau heb ofni methiant; drwy chwarae y mae plant yn gwneud synnwyr o’r byd. Rydym yn cynnig chwarae rhan, chwarae adeiladu, chwarae creadigol, chwarae arbrofol a chwarae dychmygus yn ystafell y Sioncod y Gwair.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 267159

E-bost

toybox@cambria.ac.uk

Amseroedd agor

Dydd Llun
8:00am – 5:45pm

Dydd Mawrth
8:00am – 5:45pm

Dydd Mercher
8:00am – 5:45pm

Dydd Iau
8:00am – 5:45pm

Dydd Gwener
8:00am – 5:45pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Galeri'r Feithrinfa